Cwm Gwreinyn, Commins Coch, Machynlleth, Powys SY20 8LS

01650 511628       nigel.cwm@tiscali.co.uk

 

Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu,

Llywodraeth Cymru

Caerdydd

3ydd Hydref 2016

Annwyl Bethan Jenkins

Erthygl Western Mail 30 Medi 2016 ynglŷn â chyfuno Amgueddfa Cymru gyda Cadw

Rwy’n ysgrifennu i fynegi pryder mawr yn yr hyd yr wyf wedi darllen  yn y wasg yn ddiweddar sy’n awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfuno Amgueddfa Cymru a Cadw i greu sefydliad etifeddiaeth newydd.

Fel person sydd wedi gweithio fel rheolwr addysg gyda Chadw, fel hanesydd, athro hanes a phennaeth ysgolion cynradd rwy’n hollol ymwybodol o waith Cadw a hefyd holl waith amrywiol Amgueddfa Cymru ar draws ein gwald. Serch hynny, rwy’n gweld  Amgueddfa Cymru fel sefydliad cenedlaethol o bwys ac yn rhan o’n hunaniaeth genedlaethol. Mae’n hanfodol bod y Cymry yn cadw’r trysor cenedlaethol yma fel  sefydliad annibynnol sy’n ffynnu ac yn parhau i chwarae rôl allweddol yn y gwaith o  warchod a dehongli ein hetifeddiaeth fel corff ar wahân yn unol â’r siarter sefydlu.

Rwy’n annog ac yn pwyso arnoch i bwyllo ac i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori’n llawn gyda rhanddeiliaid, sefydliadau cenedlaethol a’r cyhoedd cyn dod i unrhyw benderfyniad.  Byddwch cystal â sicrhau y bydd eich pwyllgor yn galw am ymchwiliad llawn i mewn i’r broses o ddod i benderfyniad ynglŷn â’r ad-drefnu. Hefyd i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn atebol am unrhyw gynnig i newid statws, trefniadau rheoli a phwerau i wneud penderfyniadau strategol yr Amgueddfa Genedlaethol.

Yr eiddoch yn gywir

Nigel Hughes

 

(Translation for the benefit of members who do not speak Welsh on the next page)

Translation for the benefit of members who do not speak Welsh

Dear Bethan Jenkins

Western Mail article on September 30, 2016 regarding the merger of Wales Museum Wales with Cadw

I am writing to express grave concern about the content of an article I have read in the press recently that suggests that Welsh Government proposes to merge National Museum Wales and Cadw to create a new heritage organisation.

As a person who has worked as education manager with Cadw, an historian, history teacher and primary school headteacher I'm fully aware of the work of Cadw and the varied work of National Museum Wales across our country.  Despite this, I see National Museum Wales as a national institution of worth and a part of our national identity. It is essential that this Welsh national treasure remains an independent organisation so that it can prosper and continue to play a key role in the conservation and interpretation of our heritage as a separate body in accordance with its charter.

I encourage and urge you to exercise restraint and to ensure that the Welsh Government will fully consult with stakeholders, national institutions and the public before coming to any decision. Please will you ensure that your committe will call for a full transparent  investigation into any decision making process about this merger. Also to hold Welsh Government to account for any proposal to change the status, the management arrangements and strategic powers of  National Museum Wales.

Yours sincerely,

Nigel Hughes